• Llyfrau houdmont

    Ar gael gan www.gwales.com

    Clawr Awyren Alys

    NEWYDD

    Awyren Alys

    Cyfaddasiad gan Ioan Kidd

    "Stori lawn rhialtwch i blant bach ydi’r gyfrol yma...Dyma ddifyrrwch bywiog i blant bach." Gwales

    Ar ôl i’w thad fynd ar goll mewn maes awyr, mae’n rhaid i Alys wneud ei gorau glas i ddod o hyd iddo. Mae hi’n chwilio ymhobman, hyd yn oed ar fwrdd awyren wag, a dyna pryd mae’r antur yn dechrau. A hithau wedi crwydro i gaban y peilot, mae hi’n penderfynu gwasgu un o’r botymau o’i blaen, wedyn un arall…ac un arall. Stori sy’n llawn hiwmor a fydd yn denu sylw plant 4 i 7 oed ac yn difyrru eu rhieni hefyd!

    Clawr Gwerth y Byd

    NEWYDD

    Gwerth y Byd

    Cyfaddasiad gan Ioan Kidd

    "Dyma stori ddoniol a bywiog am y tensiwn rhwng rhieni a phlant wrth iddyn nhw siopa am fwyd yn yr archfarchnad. Ceir ynddi ormodiaith liwgar a direidi fydd yn apelio at blant...Dyma stori lawn hiwmor gyda lluniau gan Michael Martchenko sydd yn adlewyrchu diriedi a doniolwch yr ysgrifennu." Gwales

    Mae ymweliad digon diniwed â’r archfarchnad yn troi’n antur ddigrif dros ben wrth i ferch fach fynd ati i lenwi ei throli â ‘bwyd da’. Dyma stori sy’n llawn hiwmor ynghyd â gwersi am werth a chariad yn ogystal â sut i ymddwyn mewn siop a dewis opsiynau iachus ar gyfer amser bwyd. Gyda lluniau bywiog, syml a llawn mynegiant mae'r cymeriadau bron â neidio oddi ar y tudalen.

    broken image

    Y Dywysoges Sach Datws

    Cyfaddasaiad gan Iwan Llwyd

    "...llawn hiwmor a chwerthin iach i blant a’u rhieni...Dyma dywysoges y buasai’r ffeministiaid yn ein plith yn falch iawn ohoni.

    Mae’r stori’n wreiddiol, a’r lluniau’n cydweddu i’r dim â’r testun. Dydw i ddim eisiau rhannu cyfrinach y diweddglo, ond digon yw dweud ei fod yn ddiwedd cofiadwy, ac yn peri i blant a’u rhieni wenu am amser hir ar ôl diwedd y stori. Mae’r stori hon a’r neges yn siŵr o apelio at blant o bob oed, a’u rhieni." Lynwen Roberts www.gwales.com

    Rhoddodd Bethan o Dolgellau i'r teitl yma ac ysgrifennodd: "Gwych! Mae ambell addasiad yn werth ei wneud! Stori sy'n chwalu stereoteipio mewn straeon. "

     

    broken image

    Wrth Draed Tad Dafydd

    Cyfaddasiad gan Iwan Llwyd

    Addaswyd nifer o lyfrau Robert Munsch eisoes i’r Gymraeg, ac mae’r gyfrol hon yn dilyn yr un arddull anffurfiol, storïol, hawdd ei darllen....Mae tro digon clyfar ar ddiwedd y stori yma a bydd plant un ai yn hoffi’r gwiriondeb a’r digrifwch neu'n gweld y stori yn un hollol hurt! Nia Gruffydd www.gwales.com 

    broken image

    Siwt Eira Tomos

    Cyfaddasiad gan Iwan Llwyd

    Addasiad Cymraeg o Thomas's Snowsuit, stori liwgar a doniol am fachgen bach yn gwrthod gwisgo'i siwt eira, i blant 4-7 oed.

    broken image

    Moch

    Cyfaddasiad gan Iwan Llwyd

    Addasiad Cymraeg gan brifardd o Pigs, stori liwgar a doniol am ferch fach yn creu helynt mawr wrth ollwng y moch allan o'r twlc un bore, i blant 4-7 oed.

    broken image

    Cynffon Gwallt Catrin

    Cyfaddasiad gan Iwan Llwyd

    (Allan o brint) "...Lluniau dychmygus a digri Michael Martchenko sy’n gwneud hwn yn llyfr doniol tu hwnt; yn enwedig y llun olaf yn y llyfr sy’n llwyddo i grynhoi’r diweddglo heb fod angen geiriau. Rhydd gyfle i blant ac athrawon drafod pynciau fel dynwared yn slafaidd, pwysigrwydd annibyniaeth, a sut i roi a derbyn beirniadaeth...". Eiry Palfrey www.gwales.com

    broken image

    'Dw i eisiau mynd

    Cyfaddasiad gan Iwan Llwyd

    Addasiad Cymraeg gan brifardd o I Have to Go!, stori liwgar a doniol am fachgen bach sydd eisiau mynd i'r tŷ bach ar adegau anghyfleus, i blant 4-7 oed.

  • Richard houdmont

    Gŵr o Swydd Efrog sy'n siarad Cymraeg, sydd â chyfenw o Wlad Belg a astudiodd rochiadau babwniaid tra yn y brifysgol

    Amdano i

    0 2008 fe ddaeth Richard yn weithiwr cyflogedig llawn amser gyda CIM fel Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru, ac yn ddiweddarach fe ychwanegwyd Iwerddon ac Ynys Manaw at ei gyfrifoldebau, yn ogystal â Grŵp Addysg Uwch CIM. Enillodd Richard statws Marchnatwr Siartredig yn 2000 ac fe'i gwnaed yn Gymrawd CIM yn 2007. Ymddiswyddodd o CIM yn 2015 ar ôl llwyddo i dyfu nifer yr aelodau, creu incwm a phresenoldeb mewn digwyddiadau. Rhwng 2007 a 2021 fe fuodd aelod o fwrdd Poetry Wales Press, sy'n cyhoeddi dan argraffnod llwyddiannus Seren a fe fuodd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2015 - 2020. Mae'n aelod bwrdd ymgynghorol NetNeutrals EU, cwmni sy'n darparu gwasanaethau Datrys Anghytundeb Ar-lein. Mae hefyd yn parhau i gyhoeddi llyfrau i blant o dan gwasgnod Houdmont.

     

    Yn dilyn sefydlu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Richard i Bwyllgor Craffu i gynghori ar faterion megis gwerth am arian a sut y mae’r Ganolfan yn ymateb i bolisïau Llywodraeth Cymru.

     

    Mae gan Richard brofiad helaeth yn y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ar ôl bod yn Gadeirydd Literary Publishers (Wales) Cyf. (1999-2006); aelod o Banel Marchnata Cyngor Llyfrau Cymru (o 1991, Cadeirydd 2001-2006). Roedd yn gyfarwyddwr sefydlu ar Wasg Taf Cyfyngedig ac am saith mlynedd bu'n aelod o Fwrdd Sgript Cymru - Contemporary Drama Wales. Mae wedi cyfrannu'n rheolaidd at raglen Good Morning Wales BBC Radio Wales ac mae wedi ysgrifennu ar gyfer amryw o bapurau newydd a chylchgronau busnes (manylion pellach ar ei broffil LinkedIn).

     

    Yn ei amser hamdden mae'n chwarae badminton a tennis ac yn dysgu canu'r blŵs ar y piano.

    Ac mae pobl eraill yn dweud...

    "Mae'n unigolyn cydwybodol, proffesiynol a thrylwyr sy'n dod â golwg unigryw a syniadau cadarn i bob sefyllfa ac ar ben hynny, mae'n gwmni da a hwyliog." Gweler mwy yn https://uk.linkedin.com/in/richardhoudmont

  • About me

    Welsh-speaking Yorkshireman with a Belgian surname who studied baboon grunts at university

    In 1977 I moved to Wales and joined the University of Wales Press where I rose to Deputy Director. In 2006 I established Houdmont Ltd, working for a variety of clients including CIM (The Chartered Institute of Marketing). From 2008 I became a full-time employee of CIM as Regional Director for Wales, subsequently adding Ireland and the Isle of Man to my responsibilities, as well as CIM’s Higher Education Group.

     

    I gained Chartered Marketer status in 2000 and was made a Fellow of CIM in 2007. I resigned from CIM in 2015 having delivered success in membership growth, income generation and event attendances. In the last three years when member surveys were undertaken, Wales was voted the best UK CIM region for overall membership value. Particular successes included the establishment of the annual Brolio competition for students and Canmol: Wales Marketing Awards.

     

    I have now returned to being a freelance, devoting my time to a variety of projects, both paid and voluntary. From 2007 to 2021 I was a member of the board of Poetry Wales Press, which publishes under the prize-winning Seren imprint and I was a Trustee of the National Library of Wales 2015 to 2020. I am a member of the advisory Board of NetNeutrals EU, who provide Online Dispute Resolution solutions. Under my own Houdmont imprint I have published several Welsh-language books for children.

     

    Following the establishment of the National Centre for Learning Welsh, the Welsh Government has appointed me to a Scrutiny Committee to advise on matters such as value for money and how the Centre is responding to Welsh Government policies.

     

    I have extensive experience of the publishing industry in Wales having been Chair of Literary Publishers (Wales) Ltd (1999-2006); a member of the Welsh Books Council Marketing Panel (from 1991, Chair 2001-2006). I was a founder-director of Gwasg Taf Cyfyngedig and for seven years was a Board member of Sgript Cymru – Contemporary Drama Wales.

     

    I was a regular contributor to BBC Radio Wales's Good Morning Wales programme for many years and have written for a variety of newspapers and business magazines (further details on my LinkedIn profile).

     

    In my 'spare time' I play badminton and tennis, and am learning to play the blues piano.

    And others say ...

    "Richard is astute, organized, an excellent manager, people centred and quite simply, a great person to work with." See more at https://uk.linkedin.com/in/richardhoudmont

  • cysylltu/Contact

    Danfonwch neges ataf/Send me a message

  • cyfryngau cymdeithasol/social media

    broken image

    Facebook

    broken image

    Twitter

    broken image

    LinkedIn

    broken image

    Caerdydd/Cardiff

  • FFRWD TRYDAR/Social Feed

  • Houdmont surname

    Belgian origins

     

    The family name "Houdmont" can be traced back very probably to a village called 'Houdemont'. It is situated in the southern part of Belgium close to the Great Duchy of Luxembourg. Up to c.1620, a huge number of homonyms in the immediate surroundings have been found suggesting that the presumption is correct. An authoritative study (1890) by a Emile Tandel explains the etymology as follows: Houdemont, Houdremont in 1260 and Houdemont in 1270 also written as Houlmont, Houlemont, Houl, Hol = pit, cavity; the village is situated in a vale inbetween two hills.

     

    Near Nancy in France is another place, Houdemont, where its name is given to an motorway exit. Here the French Marie-Thérèse Morlet, an authority in the matter of etymology, explains the surname as being of Germanic origin: Hildimund 'hild'=struggle, 'mund' = protection. Houdmont, being the contracted form of Houdemont.

     

    How the Houdmonts arrived in Wales from Brugge via Sheffield is another story . . . Why they moved from the southern French-speaking part of Belgium to the Flemish Brugge is due to the fact that an ancestor was a Customs Officer and was often transferred to other places (which was very normal for that profession) and eventually the family settled north and north-west of the country and spread out. Due to marriage (Tournai) one single Houdmont left Flanders and his descendants moved more eastwards into Wallonia. More or less back to their origins.

     

    A lot of Houdmonts were found in Wallonia. In 1795, due to an excusable administrator’s writing error one of them got the name of Houlmont (‘d’ often being pronounced ‘l’ in Wallonia).

     

    With thanks to Paul Houdmont for the original research.

     

    Jehennot Houdemont (sic) °1572 father of

    Jean Houdmont “gauthier” °1613 at Molinfaing, father of

    Jean Houdmont-Gauthier °1646

    Jean HOUDMONT (d.1726)
    At least five children including Piere HOUDMONT (b. 1700)
    At least six children including Petrus Josephus HOUDMONT (b. 1738)
    Nine children including Carolus Josephus HOUDMONT (b. 1783)
    One child: Charles Joseph HONDMONT (sic) (b. 1808)
    Ten children including Pieter HOUDMONT (b. 1834)
    Eleven children including Achilles François Joseph HOUDMONT (b. 1861)
    Seven children including Maurice Joseph Achille HOUDMONT (b. 1895)
    Three children including Maurice Joseph HOUDMONT (b. 1920)
    Three children including Richard HOUDMONT